Rhoi Trwy’r Gyflogres

Cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres Rhoi Sir Gar

Rhoi Sir Gâr yw enw newydd cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres sy’n cael ei hyrwyddo i gyflogwyr yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhoi trwy’r cyflogres yn ffordd hawdd a treth-effeithlon i weithwyr roi i elusennau lleol neu eraill eu bod yn dymuno i gefnogi. Mae rhoddion yn cael eu tynnu yn syth o gyflog gros gweithwyr, gan roi rhyddhad treth ar unwaith. Mae rhoi trwy’r gyflogres yn syml i gyflogwyr i sefydlu a rhedeg, ac mae’n ffordd ardderchog i ddangos cefnogaeth i weithwyr sy’n rhoi’n elusennol. Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn codi cymaint â £91 miliwn ar gyfer elusennau bob blwyddyn yn y UK. Mae’n hawdd iawn i gyflogwyr rhoi; maent naill ai yn llenwi un o’n ffurflenni rhodd a’i rhoi i’w adran gyflogres, neu os ydynt yn dymuno eu rhodd i aros yn ddienw gallant ei anfon yn syth i ni. Yna byddwn yn ei flaen-yrru i’n asiantaeth rhoi trwy’r gyflogres gymeradwyol, ac maent yn gwneud y gweddill.

Your pledge Cost on basic rate tax Cost on higher rate tax Your charity receives
*£20.00 £15.60 £12.00 £20.00
*£15.00 £11.70 £9.00 £15.00
*£10.00 £7.80 £6.00 £10.00
*£7.50 £5.85 £4.50 £7.50

Gall newidiadau gael eu gwneud ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r un ffurflen a ddisgrifir uchod. Nid oes angen i weithwyr boeni am gwblhau Debydau Uniongyrchol neu Rheolau Sefydlog, oll sy angen gwneud yw llenwi’r un ffurflen awdurdodi syml.

Sut gellir gosod rhoi trwy’r gyflogres yn ei le?

Dim ond i chi gysylltu â Giving Sir Gâr byddwn yn darparu pecyn Arwyddo syml a byddwn hefyd yn trafod y ffordd mwyaf effeithiol i chi  hyrwyddo’r cynllun i’ch gweithwyr. Mae gennym ystod eang o adnoddau hyrwyddo er mwyn annog gweithwyr i ddod yn rhoddwyr.

Beth yw’r gost i osod system yn ei le?

Mae Rhoi Sir Gâr wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin i drefnu a gweinyddu’r rhaglen a ddefnyddir. Yn ogystal, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn talu’r costau o dderbyn a dosbarthu rhoddion elusennol a wnaed gan Rhoi Trwy’r Gyflogres, cynniga hyn gyfle unigryw i wneud cyfraniadau treth effeithlon, heb unrhyw gost i’r Cwmni gyda’r sicrhad bod pob ceiniog yn cyrraedd y buddiolwyr a fwriedir.

Pwy fydd yn derbyn y cyfraniadau?

Ar y ffunfleni rhodd mae’r gweithiwr yn penderfynu pa elusennau y maent yn dymuno i roi iddynt. Gallant ddewis naill ai i roi yn uniongyrchol i’r gronfa Giving Sir Gar sydd wedi cael ei sefydlu arbennig i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau llai, neu gallant ddynodi unrhyw elusen lleol, cenedlaethol, neu rhyngwladol o’u dymuniad.  Gall weithwyr dewis rhoi i unrhyw gymysgedd o grwpiau gwirfoddol neu gymunedol yn dibynnu ar eu diddordebau a chysylltiadau elusenol. Gellir adolygu’r dewisiadau hyn yn hawdd ar unrhyw adeg.

Marc Ansawdd Rhoi Trwy’r Gyflogres

Wedi ei lansio ym mis Ionawr 2006, mae Marc Ansawdd Rhoi Trwy’r Gyflogres yn cydnabod ac yn gwobrwyo sefydliadau a chwmnïau sy’n gwneud Rhoi Trwy’r Gyflogres ar gael i’w staff. Yn gynwysiedig mae tystysgrif a logo, yn ogystal â Gwobrau Efydd, Arian ac Aur. Mae’r Marc Ansawdd blynyddol yn anelu at ddarparu elusennau DU gyda ffrydiau incwm gynaliadwy drwy hyrwyddo cyfranogiad cwmniau mewn Rhoi Trwy’r Gyflogres. Unwaith i chi sefydlu cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres, byddwch yn awtomatig yn derbyn tystysgrif yn ogystal â logo ar gyfer eu defnyddio ar eich llythyron, gwefannau a llenyddiaeth gwmni arall. Mae’r rhain yn cydnabod eich bod wedi gweithredu Rhoi Trwy’r Gyflogres a dangos – yn fewnol ac yn allanol – eich ymrwymiad i gefnogi achosion da gan eich gweithwyr.

Bookmark with:
  • Print
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Twitter
  • LinkedIn
  • MySpace
  • StumbleUpon
  • Digg