Her Gorfforaethol

Dechreuodd Rhoi Sir Gâr fel menter Llywodraeth Cynulliad Cymru i annog busnesau i ddatblygu cysylltiadau â’u cymunedau lleol, i gefnogi grwpiau gwirfoddol ac elusennau, ac i fuddsoddi yn eu cymunedau. Mae’r fenter yn cydnabod y lwfansau treth gorfforaethol sylweddol a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol sydd ar gael i gwmnïau sy’n cyfrannu rhoddion, nwyddau, gwasanaethau neu staff i’r sector gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys elusennau a mudiadau nid-er-elw o fewn Sir Gaerfyrddin.

Pam mae Sir Gaerfyrddin mor arbennig?

Sir Gaerfyrddin oedd y sir gyntaf yng Nghymru i ddatblygu rhaglen o’r fath gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae prosiect peilot tebyg wedi dechrau yn ddiweddar yng Ngogledd Cymru. Bydd y prosiectau peilot yn datblygu enghreifftiau o brosiectau ‘cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol’ llwyddiannus i greu model o arfer gorau y gellir ei gyflwyno ar draws y Dywysogaeth. Gweinyddir Rhoi Sir Gâr gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS) sydd wedi derbyn arian i weinyddu a hyrwyddo’r fenter, a darparu cymorth i gwmnïau sydd am gymryd rhan yn y rhaglen arloesol.

Nod Rhoi Sir Gâr yw cynyddu cyfranogiad busnes mewn tri maes penodol:

  • cynlluniau trwy’r gyflogres i alluogi gweithwyr i gyfrannu mewn ffordd treth-effeithlon i elusennau lleol a chenedlaethol, a grwpiau gwirfoddol.
  • Cymorth corfforaethol ar gyfer gwirfoddoli gan weithwyr a fydd yn buddio grwpiau lleol a chynhyrchu cyhoeddusrwydd da i’r cwmni.
  • cymorth ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol trwy fentrau rhoi fel ‘elusen y flwyddyn’ a chyfraniad gwarged nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
Bookmark with:
  • Print
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Twitter
  • LinkedIn
  • MySpace
  • StumbleUpon
  • Digg